gwybodaeth ychwanegol.jpg

Cwestiynau cyffredin

  • Mae maes carafanau Ty Hen wedi’i leoli ar lanau Llyn Maelog ger Rhosneigr, Ynys Môn. Mae hi’n bosib cerdded i bentref Rhosneigr mewn tua 10 munud.

  • Rydyn ni’n ffodus iawn fod hi’n bosib cerdded at dri traeth o Ty Hen - Traeth Cymyran, Traeth Crigyll, a Traeth Llydan. Mae Traeth Crigyll, sef prif traeth Rhosneigr, o fewn dro 10 munud, tra fod Traeth Llydan o fewn dro 20 munud. Mae yna hefyd tri traeth arall lleol sydd i’w cyrraedd o fewn 10 munud yn y car, sef Porth Tyn Tywyn, Porth Nobla a Porth Trecastell.

  • Mae gennyn ni lwybrau cyhoeddus o fewn ffiniau’r maes sydd yn cysylltu â Llyn Maelog yn ogystal â Llwybr Arfordirol Cymru. Am fwy o wybodaeth am lwybrau cyhoeddus Ynys Môn, cliciwch yma i weld map rhyngweithiol.

  • Gan ein bod ni mor agos at draethau hyfryd, mae hyn yn gwestiwn rydyn ni’n ei glywed yn aml! Yr ateb ydi bod ni wrth ein bodd pan mae cŵn (sy’n bihafio!) yn dod i aros. Mae’n bwysig eu bod nhw ar denyn neu o dan reolaeth agos yn gyson gan fod llawer o wartheg, defaid a cheffylau yn yr ardal cyfagos. Gofynnwn i chi hefyd wneud yn siwr eich bod chi’n clirio ar eu holau heb os. Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth am ba draethau ar yr ynys sy’n derbyn cŵn.

  • Mae ein cwsmeriaid yn dod atyn ni er mwyn ymlacio a chael 5 munud o lonydd. Does dim adoloniant na bar ar y maes, ond mae dewis eang o fwytai ym mhentref Rhosneigr, sydd o fewn dro 10 munud i’r maes.

  • Oes tad! Mae ein pwll nofio awyr agored (sydd yn cael ei gynhesu!) ar agor bob penwythnos o fis Mai hyd at fis Medi.

  • Mae bob un o’n carafanau statig wedi’u prynu gan gwsmeriaid - tydyn ni ddim yn eu rhentu nhw allan. Os hoffech chi ddod a’ch carafán, camperfan neu’ch pabell eich hun, cliciwch yma am fwy o wybodaeth am ein pitshys fesul noson, neu cysylltwch ti gael sgwrs am pitsh tymhorol.

  • Mae’r rhan helaeth o’n pitshys yn cael eu hawlio am y tymor cyfan, ond mae hi hefyd yn bosib bwcio fesul noson fel eich bod chi’n gallu cael gwyliau bach yn eich carafán, camperfan, neu babell. Mae gan y pitshys yma drydan a dwr. Mae defnydd ein bloc toiledau a chawodydd yn rhad ac am ddim fel rhan o gost y pitsh.

  • Mae tymor ein carafanau statig yn ymestyn o’r 1af o Fawrth hyd at yr 31ain o Ionawr bob blwyddyn. Eleni, mae’r tymor ar gyfer ein pitshys eraill - carafanau, pebyll a tymhorol - yn rhedeg o’r 22ain o Fawrth hyd at y 15fed o Fedi 2024.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau sydd heb eu hateb uchod, mae croeso mawr i chi gysylltu gyda ni gan ddefnyddio’r ffurflen isod.

1.jpg