bwcio ar-lein.jpg

Gwyliau Carafán Ar Ynys Môn, Gogledd Cymru

Mae’r mwyafrif helaeth o garafanau ar ein maes yn rhai statig, modd bynnag rydyn ni hefyd yn croesawu carafanau symudol a phabelli mewn un ardal bwrpasol. Yn ogystal â’r pitshys sydd wedi’u hawlio gan ein cwsmeriaid tymhorol, rydyn ni’n falch o gyhoeddi fod hi’n bosib eleni i fwcio pitsh ar gyfer carafán neu babell fesul noson. Rydym yn cynnig:

*dewis o pitsh gwair neu lawr caled

*’hook-up’ trydan

*opsiynau ar gyfer cyflenwad dwr a chael gwared â gwastraff

*defnydd o’n bloc toiledau a chawodydd

*cyfleusterau golchi llestri


Mae manylion llawn bob pitsh ar gael drwy ddefnyddio’r linc bwcio isod. Dim ond un carafán / camperfan / pabell sydd yn ffitio ar bob pitsh. Nodwch os gwelwch yn dda bod angen cyrraedd y maes ar ôl 2pm ar y dwrnod cyntaf, a bod angen gadael cyn 12pm ar y diwrnod olaf.



 
1.jpg