croeso.jpg

Croeso i Barc Gwyliau Ty Hen, sydd wedi ei leoli ar ochr Llyn Maelog, ger Rhosneigr ar Ynys Môn. Hawdd iawn yw cyrraedd traethau euraidd yr ardal, yn ogystal â phentref braf Rhosneigr - mae’r cyfan i’w ddarganfod o fewn tafliad carreg o’r safle. Mae golygfeydd godidog hefyd i’w gweld, gyda Phenllyn a mynyddoedd Eryri yn amlwg ar ddiwrnodau clir.

 
 
 
 
2.png

Maes Carafanau yn Rhosneigr, Ynys Môn

Amdanon ni

Mae maes carafanau Ty Hen wedi bod yn rhan o’n teulu ers iddo gael ei sefydlu yn 1944. Cliciwch er mwyn darllen mwy am ein teulu a hanes ein maes.


Newyddion

Ydych chi’n ystyried prynu carafan eich hun? Dewch i weld esiamplau o rai o’r carafanau hyfryd sydd gennyn ni ar werth.


Bwcio Ar-Lein

Os ydych chi’n chwilio am y lle delfrydol i aros gyda’ch carafan, cliciwch isod i weld pa ddyddiadau sydd gennyn ni ar gael, a beth fydd y gost.


Gwybodaeth Ychwanegol

Dewch i ddarllen y cwestiynau sy’n cael eu gofyn gan ein cwsmeriaid a dysgu mwy am ein maes carafanau ger y môr.